Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Mehefin 2016
Amser: 09.01 -
10.41
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Simon Thomas AC Jane Hutt AC Paul Davies AC Mark Reckless AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Peter Greening, Llywodraeth Cymru |
Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, trafododd y Rheolwyr Busnes bapur yn esbonio rôl y Pwyllgor Busnes yn y gwaith o sefydlu system bwyllgorau. Yn y cyfarfod hwnnw, gofynnodd y Pwyllgor i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno cynigion posibl ynghylch maint a chylch gwaith y pwyllgorau, a hynny ar sail awgrymiadau’r Rheolwyr Busnes.
Hefyd, gofynnodd y Rheolwyr Busnes i’r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno papur yn amlinellu trefn bosibl ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau, a chyflwyno cynigion posibl o fewn drefn honno iddynt eu hystyried.
Nifer y pwyllgorau
Y farn gyffredinol oedd y dylid sefydlu chwe phwyllgor arbenigol a chwe phwyllgor polisi a deddfwriaeth yn ogystal ag un pwyllgor wrth gefn i ysgwyddo unrhyw bwysau ychwanegol a roddwyd ar y pwyllgorau eraill. Cynigiodd Jane Hutt y dylai'r pwyllgor wrth gefn fedru ymgymryd â’r gwaith o graffu ar bolisïau a deddfwriaeth ac awgrymodd Simon Thomas y gallai'r pwyllgor hefyd graffu ar faterion o bwys cyhoeddus nad ydynt, o reidrwydd, wedi'u datganoli. Dywedodd y Rheolwyr Busnes hefyd y gallai’r pwyllgor wrth gefn benderfynu ymgymryd â gwaith cychwynnol yn ymwneud â chanlyniad y refferendwm ar yr UE.
Awgrymodd Mark Reckless y gallai’r pwyllgor ailystyried nifer y pwyllgorau pa bai unrhyw anghytuno ynghylch dyrannu’r cadeiryddion i’r grwpiau gwleidyddol.
Awgrymodd y Llywydd y dylai’r Pwyllgor ystyried pa mor ymarferol fydd amserlennu cyfarfodydd y pwyllgor wrth gefn. Cytunodd y Pwyllgor y dylid sicrhau bod yr amserlen yn ddigon hyblyg i ganiatáu i’r pwyllgor wrth gefn gyfarfod, gan ddibynnu ar ei lwyth gwaith, ac y dylid ystyried ei aelodaeth wrth gytuno ar yr amserlen.
Cylch gwaith
Trafododd a chytunodd y Pwyllgor ar gylchoedd gwaith y pwyllgorau polisi a deddfwriaeth, fel y nodir yn y papur.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai aelodau’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gynnwys cadeiryddion y chwe Phwyllgor Polisi a Deddfwriaeth, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac y byddai’n ystyried yn ddiweddarach sut y byddai’n gweithredu ar ôl penderfynu a ddylid cyflwyno trefn benodol o ethol cadeiryddion.
Dywedodd y Rheolwyr Busnes fod rôl Pwyllgor Busnes y pedwerydd Cynulliad o adolygu gweithdrefnau’r Cynulliad wedi gweithio'n dda ac y dylai, felly, barhau yn y pumed Cynulliad.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gadw'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad a'i gylch gwaith presennol. Cytunwyd hefyd i adolygu’r broses o graffu ar benodiadau cyhoeddus maes o law.
Maint y pwyllgorau
Dywedodd Jane Hutt fod y grŵp Llafur o’r farn y dylai’r pwyllgorau polisi a deddfwriaeth gynnwys wyth aelod, ac eithrio’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a ddylai gynnwys saith aelod ac a ddylai gael eu cadeirio gan aelod o’r wrthblaid.
Roedd Paul Davies a Simon Thomas yn cydnabod nad oedd modd sicrhau cydbwysedd gwleidyddol heb sefydlu pwyllgorau afresymol o fawr, ond byddent yn fodlon sefydlu pwyllgorau o 8 aelod pe bai’r grŵp Llafur yn barod i gyfaddawdu ar eu haelodaeth a’r modd y dyrannwyd cadeiryddion, er mwyn adlewyrchu cyfansoddiad gwleidyddol y Cynulliad yn well.
Roedd Mark Reckless yn poeni bod y cynnig i gynnwys dim ond wyth aelod ar bwyllgor yn groes i drafodaethau blaenorol y Pwyllgor ynghylch ceisio sicrhau cydbwysedd gwleidyddol. Dywedodd hefyd y dylai'r ddwy wrthblaid fwyaf gadeirio'r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac os bydd rhai pwyllgorau’n cynnwys wyth aelod a’r gwrthbleidiau wedi’u rhannu’n 3: 2: 1, byddai grŵp UKIP o dan anfantais ac ni fyddai'r trefniadau’n adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol.
Cytunodd yr holl Reolwyr Busnes y byddai cyfaddawdu ynghylch aelodaeth y pwyllgorau yn well na defnyddio system D'hondt. Anogodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes i gyfarfod y tu allan i'r pwyllgor i gytuno ynghylch maint y pwyllgorau a thrafod y mater eto yn y cyfarfod nesaf pan fyddai disgwyl iddynt wneud penderfyniad.
O ystyried y llythyr a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn nodi ei fwriad i osod y Gyllideb Atodol ar 21 Mehefin, cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i sefydlu Pwyllgor Cyllid a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus parhaol a chytunodd i gadarnhau aelodaeth y pwyllgor Cyllid erbyn y cyfarfod dilynol.
Y drefn ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau
Trafododd y Rheolwyr Busnes y syniad o gyflwyno gweithdrefn ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau, a chytunwyd ar hyn o ran egwyddor.
Ysgogodd Jane Hutt drafodaeth ynghylch pennu isafswm gofynnol ar gyfer enwebu cadeiryddion. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai enwebiad gan un Aelod yn isafswm rhesymol mewn sefydliad o faint y Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor o ran egwyddor y dylai ymgeiswyr gael eu henwebu gan aelod o'u grŵp eu hunain, ac nad oedd angen unrhyw eilydd.
Os enwebir dim ond un Aelod, cytunodd yr holl Reolwyr Busnes y bydd yr Aelod hwnnw’n cael ei ethol, yn unol â’r drefn ar gyfer ethol y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd. Os oes mwy nag un enwebiad, cytunodd y Pwyllgor y dylid cynnal pleidlais gudd ac y bydd yr Aelodau'n pleidleisio dros eu hoff ymgeisydd yn nhrefn blaenoriaeth, gan osgoi cynnal nifer o bleidleisiau cyfrinachol. Yr ymgeisydd llwyddiannus fydd y cyntaf i ennill dros hanner y pleidleisiau.
Penderfynodd y Rheolwyr Busnes na fydd unrhyw un Aelod yn gallu ymgeisio i gadeirio mwy nag un pwyllgor os bydd mwy nag un cadeirydd yn cael ei ethol yr un pryd.
Cytunodd y Pwyllgor y bydd angen i fwyafrif unrhyw bwyllgor gytuno ar gynnig i ddisodli’r cadeirydd, bydd yn rhaid cael cefnogaeth drawsbleidiol ac ni ddylai'r cadeirydd fedru cymryd rhan mewn unrhyw bleidlais i’w ddisodli.
Papur i'w nodi - Llythyr gan Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr.